Disgrifiad
Mae Blaenau Tywi yn cwmpasu’r tir ar ddwy ochr Afon Tywi islaw Llyn Brianne, gan gyrraedd bron iawn at dref Llanymddyfri. Mae’n cynnwys plwyf cyfan Cil-y-cwm ynghyd â Rhandir Abbot (ardal o Lanfair-ar-y-bryn), rhannau o hen ardal Llandingat Out (a unwyd â Cil-y-cwm ym 1977), a dwy fferm a oedd gynt yn rhan o Landdewi Brefi yng Ngheredigion, a ychwanegwyd at blwyf Cil-y-cwm tua’r un pryd. Mae deg fferm o amgylch nant Dulais bellach yn rhan o blwyf Cynwyl Gaeo ond roeddent yn hanesyddol yng Nghil-y-cwm. Mae ugain nant ag enwau yn llifo trwy’r ardal, sydd wedi’i hamgylchynu gan Fynydd Mallaen (1515 troedfedd/462m), Coedwig Crugyblaidd (1121 troedfedd/342m) a Chnwch (1047 troedfedd/320m).