Mae Cwmni Masnachu Myddfai, menter gymdeithasol arloesol a sefydlwyd yn 2010 i sbarduno adfywio gwledig ym Myddfai a’r ardaloedd cyfagos, yn falch o ddathlu ei phen-blwydd yn 15 oed ym mis Mehefin eleni.
O’i ddechreuadau gostyngedig, mae’r cwmni wedi ffynnu i fod yn fusnes llewyrchus sydd bellach yn gweithredu o’i uned gynhyrchu bwrpasol yn Llangadog. Mae’r ganolfan hon yn cefnogi siopau manwerthu yn Llandymddyfri ac Aberhonddu, ochr yn ochr â siop ar-lein sy’n tyfu. Dros y blynyddoedd, mae Cwmni Masnachu Myddfai wedi aros yn driw i’w genhadaeth wrth ehangu ei gyrhaeddiad a’i effaith.
Heddiw, mae’r fenter yn cyflogi 12 aelod o staff ac yn falch o ddarparu hyd at 30 o leoliadau profiad gwaith i bobl ifanc ac oedolion ag awtistiaeth ac anawsterau dysgu, gan helpu i feithrin cynhwysiant a chyfleoedd o fewn y gymuned leol.
I gydnabod ei gyflawniadau, enwyd Cwmni Masnachu Myddfai yn Fusnes Trydydd Sector Gorau yng Ngwobrau Busnes Sir Gaerfyrddin 2024.
I ddiolch i’w gwsmeriaid a’i gymuned, mae’r cwmni’n nodi’r garreg filltir gyda dathliadau arbennig ddydd Sadwrn, 28 Mehefin:
- 15% oddi ar holl gynhyrchion Myddfai yn y siop (Llanymddyfri ac Aberhonddu) ac ar-lein, i gwsmeriaid manwerthu
- Diodydd dathlu am ddim i ymwelwyr â’r siop
- Rhodd ar-lein 15 diwrnod, lle bydd cyfranogwyr sy’n cofrestru yn cael eu cynnwys mewn raffl ddyddiol i ennill cynnyrch Myddfai
‘Rydym yn hynod falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni dros y 15 mlynedd diwethaf,’ meddai llefarydd ar ran Cwmni Masnachu Myddfai. ‘Mae’r dathliad hwn yr un mor bwysig i ddiolch i’n cwsmeriaid a’n cymuned ag y mae i anrhydeddu ein tîm a’n cenhadaeth.’
Am ragor o wybodaeth, ewch i www.myddfai.com.